Review by Jon Meirion Jones/Adolygiad Cymraeg gan Jon Meirion Jones

Llun o lythr Jon Meirion.jpg

The Welsh speakers amongst you will be familiar with the poet, author, historian and genuine all-rounder Jon Meirion Jones. Jon has agreed that I can share his review of 'My Beautiful Imperial'. I won't attempt to translate it as he writes beautifully (an incentive to learn Welsh perhaps?) but I thought that the week of the National Eisteddfod would be an ideal time to share this. Although the novel is written in English, its heart is in Ceredigion and Chile. I'm obviously very grateful to Jon for his thoughts on the book.

Adolygiad Jon Meirion Jones o ‘My Beautiful Imperial’

Mae’n gyfrol swmpus a hardd. Mae iddi ddiwyg crefftus drwyddi – yn enwedig y clawr blaen a’r cefn. Nid yw’r penodau yn faith - yn seicolegol gryno. Mae iddi stori gyffrous, anarferol, a brigau uchel fel y tonnau cyn disgyn i gafnau o fyfyrdodau a dialog rhwng cymeriadau sy’n grefftwaith ynddynt eu hunain. A’r holl stori wreiddiol yn sieliedig ar y llun yn y cwtsh glo!! Rheiny yw’r gorau bob amser. Hoffais y ffordd roeddech wedi gwau eich profiadau o’r hiwmor Cymreig – yr emynau a’r meddylfryd gwerinol – i gefndir y co’ o ddyffryn Teifi, y Preselau, yr arfordir a threftadaeth morwrol. Mi fyddai Nhad wedi ei mwynhau mâs draw ynghyd a’i gefndryd a’r halen yn eu gwaed. Roedd y dyfyniadau o emynau yn ddramatig ac yn tynnu deigryn wrth eu darllen. Yn wir roeddwn yn adnabod peiriannydd o’r enw Glanmor Evans o Blaencelyn.

Ysgrifenwyd y gyfrol gan awdur deallus, sensitif wedi ei breintio â dawn greadigol ddramatig. Roedd gwead drefnus yn llawn disgyblaeth iaith ac yn cwtogi neu ymestyn hyd brawddegau i greu yr effaith drawiadol. Roedd y dewis o ambell air anarferol ac annisgwyl yn ychwanegu at y blas.

Enw bendigedig i’r arwr – y Capten Davy Jefferson Davies. Roedd fel petawn yn ei adnabod – a’i lygaid a’i feddylfryd tua’r gorwel a thu hwnt. Roeddwn yn adnabod 15 – 20 o gapteniaid yn ardal Pontgarreg. Drws nesa’ roedd Capten Davy Rees a fu’n morwra gyda’r Blue Funnel Line. Aeth 11 o fechgyn y Cilie i’r môr.

A fyddai’r gyfrol wedi gwneud ffilm dda? Byddai yn sicr. Mae’r cymeriadau o’r Arlywydd, i Moraga, Mrs Ebrington, Hervey, swyddogion y capten i’r rocyn ifanc a’r asyn – yn fyw a chredadwy. Roeddwn wedi ceisio gosod y cymeriadau a’u cymharu a phobl roeddwn yn adnabod.

Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant. Edmygais eich gwaith ymchwil – nid oedd yn sefyll allan ond yn gorwedd yn naturiol yn natblygiad y stori. Roedd yr enwau Sbaeneg, y tirwedd a’r enwau cynhenid – yn rhoi blas, fel sinsir mewn cacen – ac yn gwneud y cyfanwaith yn gredadwy.

Dechrau a gorffen yn eich milltir sgwâr.

Rhodder iddi ‘Oscar’.

Jon Meirion Jones